Gwasanaeth Rhanbarthol i Gynllunio Rhag Argyfwng Cynghorau Gogledd Cymru yw’r darparwr cynllunio rhag argyfwng i bob Awdurdod Lleol Gogledd Cymru. Y rhain yw:
- Cyngor Sir y Fflint
- Cyngor Sir Ddinbych
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Cyngor Sir Ynys Môn
- Cyngor Gwynedd
Mae’r gwasanaeth yn cael ei gynnal gan Gyngor Sir y Fflint a chaiff ei ariannu ar sail gydweithredol.
Ein rôl yw sicrhau bod y Cynghorau yn cydymffurfio’n llawn â Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, Rheoliadau Diogelwch Piblinellau 1996, Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015 a Rheoliadau Ymbelydredd (Parodrwydd am Argyfwng a Gwybodaeth i’r Cyhoedd) 2001.
Mae hyn yn cynnwys nodi bygythiadau a pheryglon, cynhyrchu Cynlluniau Ymateb i Argyfwng, darparu hyfforddiant i staff Awdurdod Lleol a phrofi trefniadau pan fyddant ar waith.
Rydym yn cydweithredu gydag asiantaethau partner drwy Fforwm Gwytnwch Lleol Gogledd Cymru.
Drwy gynnal y gweithgareddau hyn, rydym hefyd yn cyfrannu at wytnwch a diogelwch cymunedau yng ngogledd Cymru.