Cynllunio rhag Argyfwng yw sut mae’r llywodraeth yn paratoi a chynllunio ar gyfer argyfyngau, gan weithio’n genedlaethol, lleol a gyda’i gilydd i sicrhau amddiffyniad sifil yn y DU.
Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004
Cyflwynwyd Deddf Argyfyngau Sifil Posibl i sicrhau gwaith amlasiantaethol priodol rhwng ymatebwyr i argyfyngau ac Awdurdodau Lleol. Mae’r Ddeddf yn sefydlu set glir o rolau a chyfrifoldebau i’r rhai sy’n ymwneud â pharatoi ac ymateb i argyfyngau ar lefel leol. O’r Ddeddf, mae gan Awdurdodau Lleol saith dyletswydd i’w cyflawni: Y rhain yw:
- Asesu’r risg o argyfwng yn digwydd a’i ddefnyddio i lywio cynllunio wrth gefn
- Rhoi cynlluniau argyfwng ar waith
- Rhoi trefniadau rheoli parhad busnes ar waith
- Rhoi trefniadau ar waith i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd am faterion amddiffyn sifil a chynnal trefniadau i rybuddio, darparu gwybodaeth a chynghori’r cyhoedd pe bai argyfwng
- Rhannu gwybodaeth gydag ymatebwyr lleol eraill i wella cydlyniad
- Cydweithredu ag ymatebwyr lleol eraill i wella cydlyniad ac effeithlonrwydd
- Darparu cyngor a chymorth i fusnesau a sefydliadau gwirfoddol am reoli parhad busnes (awdurdodau lleol yn unig)
Rheoliadau Diogelwch Piblinellau 1996
Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol dan Reoliadau Diogelwch Piblinellau 1996 i ddarparu cynllun sy’n amlinellu ymateb i argyfwng amlasiantaethol i ddamwain piblinell pwysedd uchel yn eu Sir.
Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015
Mae rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i bob ardal Awdurdod Lleol sydd â safle COMAH Haen Uchaf i gynhyrchu a phrofi Cynlluniau Argyfwng Allanol yn rheolaidd. Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud mewn partneriaeth â phartneriaid proffesiynol eraill fel gweithredwyr y safle, yr Heddlu, Gwasanaeth Tân ac Achub, Gwasanaeth Ambiwlans a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Rheoliadau Ymbelydredd (Parodrwydd am Argyfwng a Gwybodaeth i’r Cyhoedd) 2019
Mae gofynion Rheoliad 17 Rheoliadau Ymbelydredd (Parodrwydd am Argyfwng a Gwybodaeth i’r Cyhoedd) 2019 yn nodi :-
Bydd pob awdurdod lleol yn paratoi a chadw’n gyfredol, trefniadau i ddarparu, pe bai argyfwng o ran ymbelydredd yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw (sut bynnag bydd yr argyfwng hwnnw’n codi), gwybodaeth a chyngor am ffeithiau’r argyfwng, y camau i’w cymryd ac fel bo’n briodol, mesurau amddiffyn iechyd sy’n berthnasol.