Busnes
Dyma wybodaeth ddefnyddiol i berchnogion busnes am wytnwch
Fel rhan o ddyletswydd yr Awdurdod Lleol i ddarparu cyngor Parhad Busnes i fentrau bach a chanolig a'r Sector Gwirfoddol, rydym wedi cynhyrchu'r dogfennau defnyddiol hyn.
Rhestr Wirio ar ôl Trychineb
Cynllun Parhad Busnes ar gyfer Busnesau Lleol GOLYGADWY
Taflen Cynllunio Trychinebau
Cysylltwch â ni os oes angen rhagor o gyngor arnoch am Barhad Busnes.
Gwytnwch Cymunedol
Bydd yn rhaid i ymatebwyr lleol i argyfwng bob amser flaenoriaethu’r rhai sydd â'r angen mwyaf yn ystod argyfwng, gan ganolbwyntio eu hymdrechion ar le mae bywyd mewn perygl. Bydd adegau pan fydd unigolion a chymunedau yn cael eu heffeithio gan argyfwng ond nid ydynt mewn perygl uniongyrchol a bydd ganddynt yr adnoddau a / neu alluoedd i edrych ar ôl eu hunain a'i gilydd am gyfnod hyd nes y gellir darparu’r cymorth allanol angenrheidiol. Nid oes cyfrifoldeb statudol i gymunedau gynllunio ar gyfer argyfyngau, nac ymateb iddynt, yn eu hardal leol, fodd bynnag mae’n arfer da i gymunedau nodi peryglon a gwneud cynlluniau syml ar sut gallent gynorthwyo asiantaethau sy’n ymateb, pe bai argyfwng yn digwydd yn eu cymuned. Mae’n bosibl y bydd pob cymuned yn agored i berygl ar unrhyw adeg. Rydym yn gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned ar draws Gogledd Cymru i ddarparu strategaeth gwytnwch Cymunedol ar gyfer yr ALl.
Cynllun Argyfwng Cymunedol
Rydym wedi datblygu templed cynllun argyfwng cartref i breswylwyr ei lenwi, a fydd yn helpu i sicrhau eu bod yn fwy gwydn i argyfwng. Bydd llenwi Cynllun Argyfwng Cartref yn eich helpu chi a’ch teulu i baratoi ar gyfer unrhyw argyfwng posibl. Trwy gofnodi’r peryglon posibl yn eich cartref ac o amgylch, a rhoi ffordd o ddelio gyda’r peryglon hynny ar waith.
Cynllun Argyfwng i'r Cartref